
QWERIN - GALWAD AM DDAWNSWYR / PERFFORMWYR
Mae Osian Meilir yn chwilio am 2/3 dawnsiwr ar gyfer cyfnod o greu, datblygu a thaith o’i ddarn dawns gyfoes newydd ar gyfer yr awyr agored, QWERIN.
Yn gorlifo â llawenydd, mae QWERIN wedi ei ysbrydoli gan wead a phatrymau y ddawns werin Gymreig, ynghyd ag egni heintus-gyffrous bywyd nos Cwiar. Mae Qwerin yn cynnig sylwebaeth ar y cysyniad o Queerness a Chymreictod trwy ddathlu diwylliant, hunaniaeth a chymuned. Cafodd QWERIN ei greu haf llynedd fel comisiwn gan Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru ac mae’n cael ei ddatblygu i fod yn ddarn cyflawn eleni (2022) drwy gymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Dyddiadau:
Cyfnod creu / datblygu: 11eg – 29ain o Orffennaf (3 wythnos)
Perfformiadau: 3ydd, 4ydd, 19fed, 20fed o Awst, 10fed, 11eg o Fedi (dyddiadau ychwanegol i’w cadarnhau)
Lleoliad: Caerdydd, Cymru
Fe fydd angen i’r ymgeiswyr fod ar gael drwy gydol y dyddiadau ymarfer ac ar gyfer pob dyddiad perfformio.
Fe fydd angen i’r ymgeiswyr hefyd allu fod wedi eu lleoli yng Nghaerdydd.
Nid oes ffi ad-leoli ar gyfer y cyfle hwn.
Croesawir ceisiadau gan bob unigolyn.
Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi lle’n bosibl i’r ceisiadau hynny gan ymgeiswyr sy’n hunan-uniaethu fel rhan o’r gymuned LHDTC+, sy’n siarad neu’n dysgu Cymraeg ac/neu o boblogaeth y Mwyafrif Byd Eang a chymunedau eraill sy'n cael eu tangynrychioli.
Ffi: £550 yr wythnos (ymarfer a datblygu), £150 y dydd ar gyfer diwrnod perfformio.
Bydd costau teithio, llety a ffi ‘per diem’ yn cael ei ddarparu drwy gydol y daith.
Ffi gyflawn: £2550
I ymgeisio anfonwch y canlynol at osianmeilir@gmail.com :
-
CV
-
Fideo o’ch hun yn dawnsio (dim hwy na' 5 munud)
-
Mynegiad byr o ddiddordeb a datganiad yn rhannu sut ydych chi’n addas ar gyfer y rôl (uchafswm o 500 gair neu fideo 2 funud)
Os ydych angen y wybodaeth yma mewn ffurf arall neu angen cefnogaeth ychwanegol wrth ymgeisio, cysylltwch â osianmeilir@gmail.com
Dyddiad cau: Dydd Gwener 13eg o Fai
I ddysgu mwy am waith Meilir ac am QWERIN, dilynwch y ddolen isod:
