top of page
DSC_3340.JPG

Osian meilir

Artist Dawns

Ffotograffiaeth:Chris Nash

DSC_3180.JPG

Bywgraffiad

Yn hanu'n yn wreiddiol o Bentre’r Bryn ar arfordir gorllewin Cymru, coreograffydd llawrydd ac artist symudiad yw Osian Meilir, sy’n rhannu eu hamser rhwng Cymru a Llundain ar hyn o bryd. Ers graddio o Trinity Laban yn 2017, bu Meilir yn perfformio ac yn creu gwaith ar gyfer amryw fannau perfformio, yn dilyn ei waith a’i gynyrchiadau dawns ar gyfer yr awyr agored yn bennaf. Bu eu gwaith yn teithio’n helaeth ar hyd a lled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, ac mae’n cynnwys gŵyl Ten Days on the Island yn Awstralia (2023), Biennale de la Danse yn Lyon (2023) ac yn FIET, sef Ffair Theatr Plant a Phobl Ifanc Ynysoedd Baleares (2024).

​

Mae gwaith Meilir fel perfformiwr yn cynnwys gweithio gyda artistiaid fel Jo Fong, Lizzi Kew Ross & Co, Satore Tech, Theatr Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae ei waith hefyd yn ehangu i fyd theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc drwy berfformio gwaith gan Carlos Pons Guerra a Cahoots NI, yn teithio ledled y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal a’i waith solo ei hun ar gyfer Cwmni Theatr Arad Goch - Palmant / Pridd. Fel coreograffydd, mae Meilir wedi cael ei gomisiynnu i greu gwaith newydd gan Articulture Wales, yr Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Fe greodd ei berfformiad cyntaf graddfa ganol - 'Qwerin', fel cyfarwyddwr a choreograffydd yn 2021 ac ehangu a datblygu'r gwaith i fod yn gyflawn ar gyfer teithio yn 2022 sydd wedi teithio’n helaeth ers hynny.

​

Mae profiadau cynharaf Meilir, a'i gefndir yn ymhêl â'r ddawns werin Gymreig, wedi golygu bod Meilir yn gwerthfawrogi dawns o bob math o ddiwylliannau gwahanol. Mae hefyd wedi golygu ei fod yn cael mwynhad o ystyried y ffordd y gall dawns godi pontydd pwysig rhwng pobl o bob cwr o'r byd.

Ffotograffiaeth: Anest Roberts

About
Gallery

CLICIWCH ISOD AM FIDEOS A CHYFYRNGAU

Mae magwraeth Meilir yn y gorllewin gwyllt a'i ddiddordeb mewn diwylliannau, traddodiadau a chefndiroedd gwahanol yn bwydo ei greadigrwydd ac yn ysbrydoliaeth i'w waith. Hyd yma, mae ei waith yn archwilio'r syniadau o hunaniaeth, y cartref, gwreiddiau, lle, cymuned a chenedligrwydd.

 

Mae Meilir yn hoff o'r syniad o ddod â phobl at ei gilydd a dod o hyd i elfennau cyffredin rhyngddynt, a hynny drwy rannu profiad ac adrodd straeon. Drwy ymfalchïo mewn undod a harmoni, yn yr enaid a chydag eraill, mae Meilir yn dathlu harddwch, symlrwydd a phwer y cysylltiad dynol.

Qwerin - Pontio by Iona Rhys 1.jpg

CYSWLLT

osianmeilir@gmail.com

​​

07581 293 735

​

  • Facebook
  • Instagram

Diolch am gysylltu!

Contact

© 2021 gan Osian Meilir

bottom of page