top of page

QWERIN

Yn llawn asbri, lliw a rythmau cyffrous, ysbrydolwyd QWERIN gan wead a phatrymau'r ddawns werin Gymreig, ynghyd ag egni heintus bywyd nos Cwiar. Mae QWERIN yn cynnig sylwebaeth  ar y cysyniad o ‘Queerness’ a Chymreictod mewn perfformiad dawns gyfoes sy’n ddathliad egnïol o ddiwylliant, hunaniaeth a chymuned. Perfformir i sgôr sain wreiddiol gan rai o gerddorion amlycaf Cymru â gwisgoedd trawiadol sy’n rhoi blas newydd i’r wisg draddodiadol Gymreig. Mae QWERIN yn wledd i’r glust a’r llygad.

 

Cafodd QWERIN ei greu yn ystod haf 2021 dan gomisiwn arbrofol i Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru. Yn 2022 cafodd ei ddatblygu i fod yn ddarn cyflawn drwy gymorth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru a chymorth cefnogol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

MAE QWERIN YN BODOLI MEWN 3 FFURF

Qwerin (bach)

‘Qwerin (bach)’ yw'r fersiwn gwreiddiol a grëwyd yn 2021 ar gyfer 3 perfformiwr.

 

Perfformiadau i ddod:

1/5 - Cragen Beca, Caerfyrddin

21/5 - Gwyl Fach y Fro, Ynys y Barri

4/6 - Gwyl yr afon Gwy,

Ross on Wye

19/6 - Tafwyl, Castell Caerdydd

16/7 - Powys Pride, Llandrindod

17 + 18/9 - Gwyl Out There,

Great Yarmouth

24/9 - Theatr Brycheiniog, Aberhonddu

QWERIN

QWERIN yw ferswin llawn o'r gwaith. Mae'n ddarn ar gyfer 6 perfformiwr a cherddor byw sy'n bwydo synnau wedi'i syntheseiddio a traciau offerynnol llawn gwead. Wedi ei seilio ar strwythur a syniadaeth Qwerin (bach), QWERIN yw'r weledigaeth gyflawn o'r gwaith.

Perfformiadau i ddod:

19 + 20/8 - Gwyl y Dyn Gwyrdd

10/9 - Pontio, Bangor

11/9 - Canolfan y Celfyddydau

Qwerin - Sioe Gerdded

Gyda gwisgoedd mor syniadol llawn manyldeb sy'n drawiadol o brydfeth, mae syniadaeth Qwerin yn gallu cael ei gyflwyno ar ffurf sioe gerdded mewn gwyliau a digwyddiadau tu allan. Mae'r perfformiad hwn yn cynnwys rhyngweithio gyda'r dorf mewn cyfrwng cymysg o ddawnsio gwerin a dawnsio clwb. Bydd y dawnswyr yn perfformio cymalau bychan o'r sioe gyflawn wrth ymlwybro rhwng y dorf.

TÎM CREADIGOL

Cyfarwyddwr a Choreograffydd: Osian Meilir

Perfformwyr: Bethan Cooper, Cêt Haf, Deborah Light, Elan Elidyr, Mike Williams, Osian Meilir with Samiwel Humphreys (Shamoniks)

Tîm Cynllunio: Becky Davies and Amy Barrett

Cyfansoddwyr: Tic Ashfield, Benjie Talbott a Shamoniks

Mentor: Marc Rees

Cynhyrchydd: Saoirse Anton

Ffilm gan Eddie Adamson Film a Guto Thomas

Hoffwn hefyd ddiolch yn ychwanegol i Sophie Holland a Hanna Lyn Hughes am eu cefnogaeth.

 Palmant / pridd 

Aeth Meilir ati i greu'r gwaith hwn ar gyfer Cwmni Theatr Arad Goch ym mis Gorffennaf 2018 yn rhan o '6x1', sef cynllun sy'n annog a chefnogi artistiaid ifanc i greu gwaith newydd. Mae'r solo hwn yn seiliedig ar hunaniaeth dyn ifanc hoyw a'i berthynas â dau le hollol wahanol. Mae'n codi cwestiynau am hunaniaeth a phwysigrwydd lle mewn perthynas â hunaniaeth. Allwn ni fodoli, drwy fod yn fodlon, mewn dau le cyferbyniol ar yr un pryd? Beth sy'n digwydd pan fydd y ddau fyd yn gwrthdaro? Pa effaith y mae labelu yn ein cymdeithas yn ei gael arnom wrth inni ddod o hyd i'r canol llonydd rhwng dau fyd croes, ac yn ein hunain?

TÎM CREADIGOL

Coregraffydd a Perfformiwr: Osian Meilir

Ffilm / Taflunio gan Gwenllian Llwyd

Goleuo gan Elanor Higgins

Rheolwr Technegol: Simon Lovatt

Mentor: Jeremy Turner

Perfformiadau (2018, 2019):

7/18 - Canolfan Arad Goch, Aberystwyth

3 / 19 - Gwyl Agor Drysau, Aberystwyth

8 / 19 - Mas ar y Maes, Yr Eisteddfod Genedlaethol

MILK AND TWO SUGARS

Yn waith ar gyfer cyflwyniad terfynol ei radd yn Trinity Laban yn 2016, mae Milk and Two Sugars yn daith ddiddorol i'r gorffennol sy'n ceisio dod o hyd i'r tebygrwydd yn ein gwahaniaethau. Drwy archwilio atgofion y cartref, mae'n dangos mor hardd yw gweithredoedd a defodau beunyddiol, a hynny gan ddathlu diwylliant a thraddodiad a chan ddangos sut mae'r rhain yn dylanwadu arnom ac yn ein mowldio fel unigolion. Mae'n dod â phobl o wahanol gefndiroedd at ei gilydd i ddathlu'r undod hwn.

Perfformwyr: Giulia Avino, Charlie Dunne, Blanche Jandin, Loren McKillop

Mentor: Marina Collard

Perfformiadau (2016):

5 / 16 - Laban Centre, Deptford

6 / 16 - Abeerance, Platform Southwark, Llundain

bottom of page