top of page

2025

Mari hwyr!

Mari Hwyr! : chwaer fawr yr hwyrnos i Mari Ha!

Ffrwydriad llawn lliw a rhyfeddod! Symffoni syfrdanol o ddawns, syrcas â gwisgoedd gwefreiddiol. Mae Mari Hwyr! yn ffrwyno ysbryd traddodiadau gwerinol Cymru a’i drwytho gan egni ewfforig cerddoriaeth hyperpop. Dewch i ddathlu’r pŵer sydd gan fyd natur i ddod â phobol ynghyd i greu cymuned a diwylliant. Mae Mari Hwyr! yn rhoi golwg newydd ar rai o draddodiadau hynaf Cymru. Mae’r perfformiad egnïol hon yn cyd-blethu Calan Mai a Chalan Hen, hirddydd haf a’r gyhydnos, y Cadi Ha a’r Fari Lwyd, mewn perfformiad bywiog yn yr awyr agored.

 

Dewch i ddathlu cylch y flwyddyn! Dewch i rannu yn y defodau a’r arferion gwerinol sy’n dwyn pobl ynghyd ar droad y tymhorau! Dewch i barti Mari… fydd hi’n un hwyr!

GM©twocatsintheyardphotography-52.jpg

Llun: Two Cats in the Yard Photography

Tîm creadigol

Cyfarwyddo a Choreograffi: Osian Meilir
Dylunio: Becky Davies

Cyfansoddwr: Alex Comana
Rigio: Janos Foldi
Mentor: Marc Rees

Perfformwyr: Alex Comana, Alex Marshall Parsons, Cêt Haf, Clementine Tonkin-Wells, Elan Elidyr, Faye Tan, Grace Tonkin-Wells, Gwennan Staziker, Iago Morgan Jones, Jordan Price Williams, Lleucu Parri, Lucy Rivers, Lyndall Merry, Morus Jones, Nia Rees, Osian Meilir a Taliesin Leboulltier

Gwneuthurwr Set / Pyped: Rachel Merritt

Gwneuthurwyr Gwisgoedd: Amy Barrett, Angharad Griffin, Angharad Spencer, Becky Davies, Elizabeth Catherine Chiu, Helen Ognjenovic-Morgan, Lucie Powell, Nikita Verboon

 

Rheolwr Cynhyrchiad: Dyfan Rhys

Goleuo: Joe Willcox (Eisteddfod) a Marc Thomas (Green Man)

Rheolwr llwyfan: EIlir Gwyn (Eisteddfod) Fran Widdowson (Green Man)

Is-Reolwr Llwyfan: Izzy Slipper

perfformiadau

Hyd y gwaith: 45 munud

Nifer o berfformwyr: 16

Wedi ei greu fel comisiwn ar gyfer Llwyfan Pen Draw'r Byd yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2025 a'i ddatblygu ymhellach gogyfer Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026.

Wedi ei gynhyrchu gan Zoe Munn a Qwerin / Osian Meilir

Diolch yn arbennig i No Fit State Circus a Citrus Arts am ei gofod ymarfer wrth arwain fyny at y perfformiadau.

Perfformiadau 2026

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Awst y 1af, 2il, 5ed + 6ed

10.30yh

GM©twocatsintheyardphotography-8.jpg

Llun: Two Cats in the Yard Photography

© 2021 gan Osian Meilir

bottom of page