top of page
DSC_3340.JPG

Osian meilir

Artist Dawns

Ffotograffiaeth:Chris Nash

DSC_3180.JPG

Ffotograffiaeth: Anest Roberts

Bywgraffiad

Mae Osian Meilir yn artist sy'n creu a pherfformio gwaith dawns a symud ac mae bellach wedi'i leoli yng Nghymru. Yn hanu'n wreiddiol o Bentre'r Bryn, ar arfordir gorllewin Cymru, aeth Meilir ymlaen i hyfforddi yn Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance. Yno, enillodd radd dosbarth cyntaf cyn bwrw ymlaen â'i astudiaethau a chwblhau ei radd Meistr mewn Perfformiad Dawns yn rhan o Transitions Dance Company.

 

Mae gwaith Meilir fel perfformiwr yn cynnwys gweithio gyda artistiaid fel Jo Fong, Lizzi Kew Ross & Co, Gwyn Emberton Dance, Satore Tech a Fearghus O'Conchuir gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae ei waith hefyd yn ehangu i fyd theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc drwy berfformio gwaith gan Carlos Pons Guerra a Cahoots NI, yn teithio ledled y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal a’i waith solo ei hun ar gyfer Cwmni Theatr Arad Goch - Palmant / Pridd (Pavement / Pasture). Fe greodd ei berfformiad cyntaf graddfa ganol - 'Qwerin', fel cyfarwyddwr a choreograffydd yn 2021 ac ehangu a datblygu'r gwaith i fod yn gyflawn ar gyfer teithio yn 2022. Bu Qwerin yn teithio yn rhyngwladol yn 2023 gan ymddangos mewn gwyliau yn Awstralia. Mae gan Meilir hefyd brofiad helaeth o arwain gweithdai a dosbarthiadau i blant, phobl ifanc ac oedolion.

 

Mae profiadau cynharaf Meilir, a'i gefndir yn ymhêl â'r ddawns werin Gymreig, wedi golygu bod Meilir yn gwerthfawrogi dawns o bob math o ddiwylliannau gwahanol. Mae hefyd wedi golygu ei fod yn cael mwynhad o ystyried y ffordd y gall dawns godi pontydd pwysig rhwng pobl o bob cwr o'r byd.

About
Gallery

CLICIWCH ISOD AM FIDEOS A CHYFYRNGAU

Mae magwraeth Meilir yn y gorllewin gwyllt a'i ddiddordeb mewn diwylliannau, traddodiadau a chefndiroedd gwahanol yn bwydo ei greadigrwydd ac yn ysbrydoliaeth i'w waith. Hyd yma, mae ei waith yn archwilio'r syniadau o hunaniaeth, y cartref, gwreiddiau, lle, cymuned a chenedligrwydd.

 

Mae Meilir yn hoff o'r syniad o ddod â phobl at ei gilydd a dod o hyd i elfennau cyffredin rhyngddynt, a hynny drwy rannu profiad ac adrodd straeon. Drwy ymfalchïo mewn undod a harmoni, yn yr enaid a chydag eraill, mae Meilir yn dathlu harddwch, symlrwydd a phwer y cysylltiad dynol.

Qwerin - Pontio by Iona Rhys 1.jpg

CYSWLLT

osianmeilir@gmail.com

07581 293 735

  • Facebook
  • Instagram

Diolch am gysylltu!

Contact
bottom of page