QWERIN: Gwerin + Q (am Queer) = QWERIN
​
Yn llawn asbri, lliw a rythmau cyffrous, ysbrydolwyd QWERIN gan wead a phatrymau'r ddawns werin Gymreig, ynghyd ag egni heintus bywyd nos Cwiar. Daw QWERIN yn ôl eleni, yn fwy ac ar ei newydd wedd, i gynnig sylwebaeth pellach ar y cysyniad o ‘Queerness’ a Chymreictod. Perfformiad dawns gyfoes sy’n ddathliad egnïol o ddiwylliant, hunaniaeth a chymuned yw QWERIN. Perfformir i sgôr sain wreiddiol gan rai o gerddorion amlycaf Cymru â gwisgoedd trawiadol sy’n rhoi blas newydd i’r wisg draddodiadol Gymreig. Mae QWERIN yn wledd i’r glust a’r llygad.
Cafodd QWERIN ei greu yn ystod haf 2021 dan gomisiwn arbrofol i Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru. Yn 2022 fe gafodd ei ddatblygu i fod yn ddarn cyflawn drwy gymorth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru a chymorth cefnogol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae QWERIN bellach yn chwilio am gyfleodd perfformio yn 2023.
Dyddiadau Perfformiadau 2024:
​
MAWRTH
2 Qwerin Bach - Jubilee Square, Abertillery
​
3 Qwerin Bach - Porthcawl (mwy o wybodaeth i ddilyn)
​
9 Qwerin Bach - Maesteg (mwy o wybodaeth i ddilyn)
​
14 QWERIN - Gwyl Agor Drysau, Aberystwyth
​
​
MEHEFIN
15 QWERIN - Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd
​
​
GORFFENNAF​
4 Qwerin Bach - DO Lecture, Aberteifi
​
6 Qwerin Ar Droed - Hay Pride, Hay On Wye
​
13 Qwerin Bach - Spirit Fest, Wrecsam
​
​
AWST
3 + 4 Qwerin Bach - SPRAOI, Waterford, Yr Iwerddon
​
24 Qwerin Ar Droed - Between The Trees, Merthyr Mawr
​
26 QWERIN - Summer Sounds, King's Cross, Llundain
​​
Qwerin (bach)
​
‘Qwerin (bach)’ yw'r fersiwn gwreiddiol a grëwyd yn 2021 ar gyfer 3 perfformiwr.
QWERIN
​
QWERIN yw fersiwn llawn o'r gwaith ar gyfer 6 perfformiwr. Mae cerddor byw yn bwydo synnau a cherddoriaeth wedi'i syntheseiddio i fewn i'r trac wrth i'r darn ddatblygu. Wedi ei seilio ar yr un cysyniad, patrymau a strwythur a Qwerin Bach, QWERIN yw'r fersiwn llawn o'r gwaith.
Qwerin ar Droed
​
Mae Qwerin Ar Droed yn berfformiad promenâd o'r darn gwaith QWERIN. Mae ffigyrau mewn gwisgoedd sy'n ddehongliad gyfoes o'r wisg draddodiadol Gymreig yn camu, hofran ac yn ymsymud yn araf rhwng y gwesteion gyda hiwmor, direidi a hud. Mae'r sgertiau lliwgar a phresenoldeb iasol yr hetiau Cymreig enfawr yn ychwanegu dirgelwch a gosgeiddrwydd i unrhyw ddigwyddiad. Synnwch wrth ei gwylio'n troellu, ymunwch mewn ambell i ddawns neu gwyliwch o'r ymylon yn garcus wrth iddyn nhw ystumio ac ymgeisio i ymdoddi i fewn i hwyl yr wyl.
TÎM CREADIGOL
​
Cyfarwyddwr a Choreograffydd: Osian Meilir
​
Perfformwyr:
Qwerin Bach: Cêt Haf, Elan Elidyr a Osian Meilir
QWERIN: Bethan Cooper, Cêt Haf, Deborah Light, Elan Elidyr, Mike Williams, Osian Meilir, Richard Pye gyda Samiwel Humphreys (Shamoniks)
​
Tîm Dylunio: Becky Davies (dylunydd) a Amy Barrett (gwneuthurwr)
Cyfansoddwyr: Tic Ashfield, Benjie Talbott a Shamoniks
Traciau eraill gan Pendevig a Gwilym Bowen Rhys
​
Marchnata: Ceri Puckett (2023/24)
Mentor: Marc Rees
Cynhyrchydd: Sophie Holland (2023/24)
​
Ffilm gan Eddie Adamson Film a Guto Thomas​