CYFleoedd

GALWAD AM Chwaraewyr ffidil
Mae Osian Meilir yn chwilio am chwaraewr ffidil medrus i fod yn rhan o gynhyrchiad datblygedig o’r sioe ‘Mari Hwyr!’ yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026.
MANYLION
Dyddiadau’r prosiect (gall newid, ond yn anhebygol)
Ymarferion: 24ain + 27ain - 31ain o Orfennaf
Performiadau: 1af, 2il, 5ed + 7fed o Awst 2026
Lleoliad: Caerdydd (ymarfer), Llantood, Sir Benfro (perfformiadau)
Ffi: £1,300
Bydd costau teithio, llety a ffi ‘per diem’ yn cael ei ddarparu lle’n briodol.
Y SIOE: MARI HWYR!
Dewch i ddathlu cylch y flwyddyn! Dewch i rannu yn y defodau a’r arferion gwerinol sy’n dwyn pobl ynghyd ar droad y tymhorau. Mae Mari Hwyr! yn rhoi golwg newydd ar rhai o draddodiadau hynaf Cymru. Mae’r ddawns gyfoes egnïol hon yn cyd-blethu Calan Mai a Chalan Hen, hirddydd haf a’r gyhydnos, y Cadi Ha a’r Fari Lwyd, mewn perfformiad bywiog yn yr awyr agored. Yn ffrwydro llawn lliw a rhyfeddod, mae Mari Hwyr! yn ffrwyno ysbryd traddodiadau gwerinol Cymru wedi ei drwytho gan egni ffrenetig cerddoriaeth hyperpop, mewn symffoni syfrdanol o ddawns, syrcas â gwisgoedd gweledol. Mae Mari Hwyr! yn dathlu’r pŵer sydd gan fyd natur i ddod â phobol ynghyd i greu cymuned a diwylliant.
Wedi ei gomisiynu ar gyfer Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2025 ac yn ddatblygiad o waith blaenorol Osian Meilir - Mari Ha! (2024) - comisiwn ar y cyd rhwng Menter Bro Morgannwg, Yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.
Am fwy o wybodaeth / lluniau o’r gwaith yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd llynedd, dilynwch y ddolen ganlynol: Mari Hwyr!
DISGRIFIAD ROL:
Mi fyddwch yn gweithio gyda'r cyfansoddwr a'r cyfarwyddwr cerddoriaeth Alex Comana i amlygu darn o gerddoriaeth gwerin / electroneg, sydd eisoes wedi ei gyfansoddi yn barod, a'i chwarae yn fyw ar gyfer y perfformiad. Byddwch hefyd yn perfformio gyda thri cerddor arall yn ogystal â chast o ddawnswyr, clocswyr a pherfformwyr syrcas.
GOFYNNION RÔL
Hanfodol
-
Argaeledd ar gyfer y dyddiadau uchod
-
Safon uchel o chwarae'r ffidil i lefel broffesiynnol
-
Brwdfrydedd a diddordeb yn y gwaith
-
Profiad blaenorol o berfformio a chwarae cerddoriaeth byw
Delfrydol
-
Yn hunaniaethu'n fenywaidd neu'n aneuaidd
-
Yn gymro/aes, wedi lleoli yng Nghymru neu â chysylltiadau gyda Chymru
-
Profiad a dealltwriaeth o gerddoriaeth gwerin
-
Offeryniaeth ychwanegol o bosib
Er mwyn ymgeisio anfonwch y canlynol at osianmeilir@gmail.com
-
Unrhyw ddeunydd fideo ohonoch chi’n chwarae neu'n perfformio
-
Mynegiad byr o ddiddordeb yn rhannu sut ydych chi’n addas ar gyfer y rôl a pham mae’r prosiect o ddiddordeb i chi
Dyddiad cau: Dydd Llun yr 20fed o Ebrill 2026
Os oes gennych unrhyw gwestiynnau ynglyn a'r broses ymgeisio neu'r gwaith yn gyffredinol, peidiwch oedi rhag gysylltu am sgwrs.
Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob ystod oedran a chefndir amrywiol.
Mi fyddwn yn anelu i ddod 'nôl atoch chi erbyn diwedd wythnos y dyddiau cau. Diolch, edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau.